Sir Gâr | Carmarthenshire

Sir Gâr | Carmarthenshire

Regular price £4.00
/
Tax included. Shipping calculated at checkout.

Pomgranad Du | Black Pomegranate

Sir Gaerfyrddin yw calon Dde Orllewin Cymru; Sir hardd lle byddwch chi'n synnu dod ar draws gwahanol dirweddau, o fynyddoedd syfrdanol i draethau euraidd helaeth, dyffrynnoedd gwyrdd heddychlon yn ogystal â threfi marchnad brysur.

Efallai y bydd y golygfeydd yn newid wrth i chi deithio o amgylch Sir Gaerfyrddin, ond yr hyn a fydd yn aros yr un fath ble bynnag yr ewch chi yw’r croeso cynnes yr ydym yn ymfalchïo yn ei rhoi i’r rhai sy’n ymweld. Cafodd Llŷr ei fagu ym mhentref Llannon ger Llanelli ac yn wir i’w wreiddiau mae’n gefnogwr brwd o'r Scarlets! Roedd felly’n benderfynol mai coch oedd rhaid i logo cannwyll Sir Gar fod er mwyn adlewyrchu ei ymrwymiad i dîm ei Filltir Sgwâr. Dewiswyd yr arogl gan ei fod yn llenwi'ch cartref â chynhesrwydd sy'n dynwared y cynhesrwydd rydych chi'n ei dderbyn wrth ymweld.


Mae gan yr arogl nodiadau uchaf o eirin sudd, pomgranad a rhosod ffres yn cyd-fynd yn berffaith â chalon o patchouli, cedrwydden, deilen fioled a sbeisys, i gyd yn dod i orffwys ar sylfaen musky o ambr, fanila a lledr.

 

Carmarthenshire's the heart of South West Wales; a beautiful county where you’ll be surprised to encounter such different landscapes, from breath-taking mountains to vast golden beaches, peaceful green valleys as well as bustling market towns.

The scenery may change as you travel around Carmarthenshire, but what will stay the same wherever you go is the ‘croeso cynnes’ (warm welcome) that we pride ourselves in giving those who visit. Llŷr raised in Llannon, Llanelli, is true to his roots and is an avid Scarlets fan, so was determined that the Sir Gar candle represented his home team - scarlet red. We chose the scent because it wonderfully fills your home with a cosy warmth which replicates the warmth you receive when visiting .

The scent has top notes of juicy plum, pomegranate and fresh roses perfectly compliment a heart of patchouli, cedarwood, violet leaf and spices, all coming to rest on a musky base of amber, vanilla and leather.

 

You may also like